PET(4)-03-12 p10a
P-03-295 Gwasanaethau Niwroadsefydlu
Paediatrig
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod
ac i ddarparu gwasanaethau ar gyfer adsefydlu plant sydd wedi cael
anafiadau i’r ymennydd. Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster yng
Nghymru i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Er
gwaetha’r ffaith bod ysbyty penodol ar gyfer plant yn cael ei
adeiladu yng Nghaerdydd, nid oes darpariaeth o hyd wedi’i
chynnwys yng nghynllun yr ysbyty hwnnw.
Cynigwyd gan: Kyle’s Goal
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf:
Mis Mehefin 2010
Nifer y llofnodion: Cynigwyd y ddeiseb gan Kyle’s Goal.
Casglwyd 9,128 o lofnodion gan ddeiseb
gysylltiedig.